Cyngor Addysg
Swyddog Addysg
Cyflogir swyddogion addysg mewn sawl sector gan gynnwys cwmniau d?r, theatrau, o fewn y gymdogaeth, amgueddfeydd, cadwriaeth, amgylcheddol ac ymddiriedolaethau. Mae’r swyddi gan amlaf yn gofyn i chi lunio rhaglenni addysg i grwpiau o ysgolion, cynradd ac uwchradd yn ogystal â chynulleidfaoedd arbenigol a’r cyhoedd.
Efallai gofynnir am arbenigedd a/ neu gymwysterau ffurfiol yn ogystal â gradd Addysg. Byddai gwneud gradd gyd-anrhydedd drwy gyfuno Addysg / Astudiaethau Addysg â phwnc academaidd arall rydych yn ei fwynhau megis hanes neu ddrama yn ehangu eich cyfleoedd am swydd.
Swyddi Cefnogi Addysg Uwch
Mae nifer o swyddi gweinyddol, proffesiynol a rheoli ar gael o fewn prifysgolion i’r rheini â gradd yn ymwneud ag Addysg. Mae swyddi yn cynnwys swyddogion prosiect, swyddogion sicrhau ansawdd, swyddogion datblygu a chynllunio, swyddog derbyn a dirprwy gofrestr gyda chyfleoedd datblygu gyrfa da ynddynt. Hysbysebir swyddi ar wefannau prifysgolion. Mae Find a Universityjob.com yn wefan ddefnyddiol i ddod o hyd i whanol fathau o swyddi.
Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau
Mae swyddogion cyswllt ysgolion a cholegau yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion a cholegau yn rhoi cyflwyniadau ar gylch recriwtio UCAS, datganiadau personol, cyllid a bywyd myfyriwr. Hysbysebir swyddi gwag ar wefannau prifysgolion.
Cynghorwyr Gyrfa
Mae cynghorwr gyrfa / cynghorwr personol yn rhoi gwybodaeth / cyngor diduedd ac arweiniad i helpu pobl wneud dewisiadau realistig am addysg, hyfforddiant a dewisiadau gyrfa. Yn Lloegr gwneir hyn drwy gyfrwng Connexions, yng Nghymru drwy gyfrwng Gyrfa Cymru a cheir cyfleoedd mewn colegau a sefydliadau addysg uwch. Gellir ennill cymhwyster drwy gwblhau’n llwyddiannus gymhwyster ôl radd mewn Arweiniad Gyrfaoedd / Cymhwyster mewn Arweiniad Gyrfaoedd (CAG). Os ydych yn gweithio mewn sefydliad sydd yn rhoi gwasanaethau cynghori gyrfa gellwch weithio tuag at NVQ lefelau 3 a 4 mewn Cyngor ac Arweiniad.







