Timau Aml-Asiantaeth
Mae gwaith aml-asiantaeth yn dod ag ymarferwyr o wahanol sectorau a phroffesiynau o fewn y gweithlu at ei gilydd i roi cefnogaeth integredig i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae sawl ffordd o gyflwyno gwasanaethau aml-asiantaeth a gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan Children in Wales / Plant yng Nghymru.
Gall gwaith gwirfoddol a lleoliadau gwaith yn ystod eich gradd ddatblygu eich sgil a’ch profiad ac ehangu eich CV.
Mae’r rhestr ganlynol o wefannau allanol yn rhoi cipolwg i chi o’r math o swyddi sydd ar gael yn y sector Addysg yng Nghymru.
- Children in Wales / Plant yng Nghymru http://www.childreninwales.org.uk/index.html
- Gwasanaethau Recriwtio Gofal Cyflawn, Iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg. http://www.completelycare.co.uk/recruitment
- Mae cynghorau lleol yn cyhoeddi’r swyddi gwag sydd ar gael ar eu gwefannau. Cliciwch YMA am restr o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gael eu manylion.
PROFIAD G?R GRADD
“ Treulio tair blynedd yn gwneud fy ngradd oedd y paratoad gorau posibl i weithio gyda phlant. Rhoddodd sylfaen ardderchog mewn datblygiad a seicoleg plentyn. Treuliais fy ngwyliau hefyd yn gwirfoddoli a gweithio gyda blynyddoedd cynnar i ehangu fy mhrofiad. Ar ôl graddio gweithiais am ddwy flynedd a hanner fel cynorthwy-ydd meithrin ac arolygydd clwb ar ôl ysgol/ cynllun chwarae yn ystod gwyliau. Heb fy ngradd mae’n annhebyg y byddwn wedi cael swydd gwarchod ar ôl cymhwyso. Yn dilyn hyfforddiant pellach cefais swydd yn arwain prosiect gyda phlant wedi’u mabwysiadu ac ar faeth mewn sir gymharol fawr yn Lloegr. Golygai hyn lunio polisi, rhoi arweiniad a hyfforddiant. Wedi blwyddyn yn y swydd hon cefais swydd yn arweinydd proffesiynol yn fy ardal. Golygai hyn arwain timau aml- asiantaeth i roi’r cyfle gorau posibl i’r plant yn ein gofal yn hytrach na gweithio fel unigolion”
Josh, Arweinydd Proffesiynol yn gweithio gyda Chyngor Sir Swydd Gaerloyw
BA (Anrh) Adysg Blynyddoedd Cynnar Coleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin







