Cyflog a Manteision

Manteision astudio am radd mewn Addysg

Mae Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnig ystod eang o gyrsiau’n ymwneud ag Addysg a gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Bydd llawer o’u graddedigion yn mynd ymlaen i waith yn y sector addysg (edrychwch yn adran Gyrfaoedd y safle hwn am fwy o fanylion), ond byddant i gyd yn datblygu sgiliau a phriodweddau a fydd yn werthfawr yng ngolwg cyflogwyr yn gyffredinol. Nid oes angen gradd benodol ar gyfer tua 50% o swyddi i raddedigion ac felly mae myfyrwyr Addysg yr un mor gymwys i fynd yn swyddogion gyda’r heddlu, neu reolwyr dan hyfforddiant, â myfyrwyr gydag unrhyw radd arall. I weld pa sgiliau a gewch drwy wneud graddau’n ymwneud ag Addysg, ewch i wefan GO Wales.  (Saeneg yn unig)

Mae yna lawer o lwybrau eraill hefyd i weithio gyda phlant a phobl ifanc.  Gweler www.careerswales.com i gael syniadau am yrfaoedd.
 
Gall graddedigion gyda graddau Addysg fynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd a ddatblygwyd o ganlyniad i ad-drefnu gwasanaethau addysg a datblygiad gwaith ‘anhraddodiadol’ gyda phlant a’u teuluoedd.  

Gofal Cymdeithasol
Mae nifer o raddedigion diweddar yn awr yn gweithio i brojectau a sefydlwyd gan Awdurdodau Lleol, neu a gyllidir gan adrannau’r Llywodraeth, i roi sylw i faterion penodol yn ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi cefnogaeth i ofalwyr ifainc, helpu teuluoedd o ffoaduriaid i fedru cael addysg, gweithio gyda thadau absennol i ailsefydlu eu cysylltiad â'u plant a datblygu cysylltiadau yn eu cartrefi gyda theuluoedd sydd mewn perygl er mwyn gwella eu sefyllfa.  Mae myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i gyrsiau ôl-radd mewn gwaith cymdeithasol.
 
Trydydd Sector
Mae gan sefydliadau gwirfoddol y trydydd sector hanes maith o gefnogi a chynorthwyo plant a’u teuluoedd gydag anawsterau penodol ac mae llawer o raddedigion addysg wedi cael eu cyflogi gan y rhain i ddatblygu a chyflwyno projectau penodol. Mae’r sefydliadau’n cynnwys Barnardos, Action for Children, the National Autistic Society and Girl Guiding UK, yn ogystal â llawer o grwpiau elusennol lleol.
 
Sector Preifat
Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i sefydlu mentrau yn y sector preifat, neu i weithio i rai. Mae’r rhain wedi amrywio o agor canolfannau chwarae meddal a meithrinfeydd preifat i weithio i’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dadansoddi data o leoliadau blynyddoedd cynnar.  Eleni mae un myfyriwr graddedig yn dechrau mewn swydd fel hyfforddwr Ysgol Fforest i ddarparwr hyfforddiant cenedlaethol, sy’n adlewyrchu twf y sector preifat mewn meysydd a oedd gynt dan reolaeth awdurdodau lleol.
 
Addysg
Bob blwyddyn mae rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio am gymwysterau ôl-radd i ddysgu yn y sectorau cynradd, uwchradd neu ôl-16. Mae rhai graddedigion yn mynd i swyddi cefnogi mewn ysgolion a chyflogir rhai i gyflwyno rhaglenni penodol, megis Adfer Darllen.
 
Meysydd eraill
Mae natur ddeinamig y maes yn golygu bod swyddogaethau newydd a gwahanol brojectau yn dod i'r amlwg yn gyson. Yn y blynyddoedd diwethaf mae gennym raddedigion sydd wedi mynd ymlaen i fod yn therapyddion galwedigaethol, gweithwyr chwarae, cydlynwyr Iaith a Chwarae, rheolwyr canolfannau integredig i blant, mentoriaid unedau cyfeirio disgyblion a chydlynwyr dysgu awyr agored.  Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yn America, Awstralia a gwledydd eraill.
Mae’r enghreifftiau canlynol wedi eu seilio ar swyddogaethau gwirioneddol myfyrwyr a astudiodd yng Nghymru am raddau’n ymwneud ag addysg. Maent yn cynnwys:
  • Gwaith Ieuenctid a Chymuned
  • Addysg Blynyddoedd Cynnar / Astudiaethau Plentyndod Cynnar  
  • Astudiaethau Addysg  
  • Cymdeithaseg / Cynhwysiad Cymdeithasol
  • Cefnogi Dysgu
  • Hyfforddiant ar gyfer dysgu yn y sector addysg ôl-orfodol (addysg bellach, uwch ac oedolion)  
Bydd angen profiad gwaith ar gyfer y rhan fwyaf o’r swyddi hyn, os nad pob un. Gellir cael hyn drwy leoliadau gwaith yn eich rhaglen radd, neu drwy waith gwirfoddol.  Bydd gwneud y gorau o gyfleoedd profiad gwaith a datblygiad personol yn gwella eich siawns o gael y swydd rydych ei heisiau.
 
Swydd Cyflog Nodweddiadol (2009)
 Swyddog Addysg  £20,000 - 25,000
 Cynghorwr Addysg  £20,000 - 25,000
 Cefnogi Dysgu/ Cynorthwywr Dysgu  £12,000 - 14,000 
 Cydlynydd Cefnogi Dysgu  £15,800 - 17,000
 Gweithiwr Chwarae mewn Canolfan i Deuluoedd  £16,500 - 18,500
 Gweithiwr Ieuenctid/Swyddog Datblygu Ieuenctid  £18,000 - 22,000
 Gweithiwr Cymunedol  £22,000 - 30,000
 Darlithydd Addysg Bellach  £17,000 - 23,000
 Gweithiwr Camddefnyddio Cyffuriau/Sylweddau (heb gymhwyster)  £18,000 - 20,000
 Cynorthwywr Therapi Iaith a Lleferydd  £15,500 - 19,000
 Technegydd/Cynorthwywr Therapi Galwedigaethol  £13,500 - 19,000
 Swyddog Cynhwysiad Ysgol  £20,000 - 27,000

 

Glynd?r University University of Wales, Newport UWIC Open University
Bangor University Swansea Metropolitan University Trinity University College Aberystwyth University