Gofynion Eraill
Mae’r rhain yn amrywio ond mae’n debygol y cewch eich gwahodd naill ai i gyfweliad ffurfiol neu eich annog i ddod i gyfarfod â staff a thrafod y cwrs ar ddyddiau ymweld penodedig.
- Cyfweliad
Mae’r rhain yn amrywio ond mae’n debygol y cewch eich gwahodd naill ai i gyfweliad ffurfiol neu eich annog i ddod i gyfarfod â staff a thrafod y cwrs ar ddyddiau ymweld penodedig.
- Cymraeg
Bydd angen i rai sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg ddangos bod ganddynt fedrusrwydd ysgrifenedig a llafar yn Gymraeg.
- Swyddfa Cofnodion Troseddol / Awdurdod Diogelu Annibynnol
O fis Tachwedd 2010 caiff proses y CRB ei chynnwys yn y Cynllun Archwilio ac Atal a weinyddir gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol. Mae'r Awdurdod Diogelu Annibynnol wedi cael ei sefydlu'n ddiweddar fel asiantaeth sengl i fonitro'r holl rai sydd eisiau gweithio neu wirfoddoli gyda phobl hawdd eu niweidio. Bydd cofrestru â’r cynllun yn costio £64, fel un taliad unwaith yn unig. Bydd yn cynnwys cost cofrestru a gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Ar ôl cofrestru’n llwyddiannus byddwch yn cael Rhif Cofrestru ISA a fydd gyda chi wedyn weddill eich gyrfa.
Am wybodaeth bellach a chwestiynau a ofynnir yn aml, ewch i http://www.isa-gov.org.uk/
Sylwer: Nid oes angen i chi wneud cais i gofrestru â’r CRB/ISA cyn i chi wneud cais i astudio. Bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i chi am y drefn, fel rheol yn dilyn cais llwyddiannus.







