Is-raddedig
Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs a lle dymunwch astudio, ond dyma rai canllawiau cyffredinol:
- Cyfanswm o 180 – 260 o bwyntiau UCAS ar gyfer astudio ar lefel gradd; yn aml gyda'r angen i gynnwys isafswm o bwyntiau UCAS o fan leiaf un, dau neu dri lefel A.
- TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg ac, yn ddelfrydol, gradd C mewn Mathemateg
- Mae cymwysterau cyfwerth yn dderbyniol. Gall y rhain gynnwys CACHE Lefel 3 neu gwblhau cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn llwyddiannus.
- Gall darpar fyfyrwyr heb gymwysterau academaidd ffurfiol, ond lefelau priodol o sgiliau llythrennedd a rhifedd a phrofiad perthnasol, gael eu derbyn ar sail eu teilyngdod fel unigolion.







